Partion Pen-Blwydd
Mae DanceFit yn falch i gyhoeddi ein pecynnau parti pen-blwydd newydd. Mae hyn wedi’i gynllunio i wneud eich profiad mor bersonol a pleserus ag sy’n bosib heb y straen o orfod trefnu’r digwyddiad eich hunain.
MAE PARTI AR GYFER 15 YN CYNNWYS (£200):
1 hyfforddwr cymwysedig DanceFit am 2 awr (trefnu/dawns/gemau)
Gwahoddiadau parti pen-blwydd
Crys-t personol i’r ferch/bachgen pen-blwydd
Balwn heliwn ffoil
Bagiau parti (losin/chwiban/glowstick/swigod/taflen lliwio/creonau)
Offer ar gyfer gemau
System sain
YCHWANEGION
Hyfforddwr Ychwanegol - £40 yr awr (bydd 15 person ychwanegol yn medru mynychu)
Llogi Ystafell – O £25 yr awr
- Cacen - £25
Rydym ni eisiau i’ch parti ar gyfer eich plentyn fod yn bersonol a cofiadwy, felly os oes unrhyw geisiadau cerddoriaeth neu thema benodol o ddiddordeb, yna rhowch wybod ac fe wnawn ni gneud ein gorau i ddarparu’r gofynion. Rydym ni hefyd yn gallu cynnal partïon trwy gyfrwng Saesneg neu yn ddwyieithog os dymunwch.
TERMAU AC AMODAU
Bydd angen blaendal o £50 i sicrhau archebu eich parti 2 wythnos cyn y dyddiad. Bydd angen i’r gweddill ei dalu 24 awr cyn y digwyddiad.
Partïon Plu
Edrych am rywbeth i wneud am eich parti plu? Cysylltwch â ni i wneud yn siŵr cewch y pecyn fwyaf delfrydol am eich noson. Rydym yn gallu cynnig casgliad o wahanol themâu addas ar gyfer eich diwrnod a chynorthwyo trefnu eich sesiwn.
MAE PECYN HYD AT 15 CYFRANOGWYR YN CYNNWYS- £250
Hyfforddwr dawns am 2 awr
Pecyn lluniau o’r sesiwn
System sain ac offer
Clips cymysg o’ch diwrnod
YCHWANEGOL
Llogi lleoliad
Teithio i gyrchfan o’ch dewis
- Hyfforddwr ychwanegol am 15+ cyfranogwyr- £50
Gwersi Unigol
Rydym yn gallu cynnig gwersi unigol ar gyfer unrhyw ddawnswyr sydd â diddordeb am gystadlu’n unigol / mewn deuawd.
Cysylltwch gyda ni am unrhyw geisiadau pellach.
Cyrsiau Hyfforddi
GWELIR ARCHEBU AR-LEIN AM Y CYRSIAU DIWEDDARAF
ARWEINYDD DAWNS
LEFEL 1
Oed 12+
Nid oes angen unrhyw profiad blaenorol
ARWEINYDD DAWNS
LEFEL 2
Oed 13+
Bydd angen profiad blaenorol mewn arddull dawns o’ch dewis
Gwasanaethau Eraill